Job 5

1Galw am help! Fydd rhywun yn dy ateb di?
At ba un o'r angylion sanctaidd wyt ti'n mynd i droi?
2Mae'r ffŵl byrbwyll yn marw o ddiffyg amynedd,
a'r person dwl pan mae'n dal dig.
3Dw i wedi gweld y ffŵl yn llwyddo a gwreiddio,
ond yna'n sydyn roedd ei gartre wedi ei felltithio.
4Dydy ei blant byth yn saff –
byddan nhw'n colli'r achos yn y llys, heb neb i'w hachub.
5Bydd pobl newynog yn bwyta ei gnydau,
a'i gario i ffwrdd i'w guddio;
5:5 un cyfieithiad posibl a'i gario … guddio; Hebraeg, "ac i ffwrdd o'r drain mae'n ei gymryd".

a'r rhai sy'n llwgu yn ysu am ei gyfoeth.
6Dydy profiadau drwg ddim yn tyfu o'r pridd,
na thrafferthion yn egino o'r ddaear;
7ond mae pobl yn cael eu geni i drafferthion,
mor siŵr ag mae gwreichion yn hedfan i fyny.
8Petawn i'n ti, byddwn i'n troi at Dduw,
ac yn gosod fy achos o'i flaen.
9Mae e'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni,
cymaint o bethau rhyfeddol, ni ellir eu cyfri!
10Mae e'n anfon glaw i'r ddaear,
ac yn dyfrio'r caeau.
11Mae e'n codi'r rhai sy'n isel,
ac yn gwneud y rhai sy'n galaru yn ddiogel.
12Mae e'n drysu cynlluniau'r cyfrwys,
i'w hatal rhag llwyddo.
13Mae'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw;
mae cynlluniau'r cyfrwys yn mynd o chwith.
14Maen nhw'n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd,
ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai'n nos!
15Ond mae e'n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon,
a'r anghenus o afael y rhai cryf.
16Felly mae gobaith i'r tlawd,
ac mae anghyfiawnder yn gorfod tewi!
17Mae'r rhai mae Duw'n eu ceryddu wedi eu bendithio'n fawr;
felly paid gwrthod disgyblaeth y Duw sy'n rheoli popeth!
18Mae e yn anafu, ond hefyd yn rhwymo'r anaf;
Mae'n dolurio, ond mae ei ddwylo hefyd yn iacháu.
19Bydd yn dy achub rhag un trychineb ar ôl y llall;
chei di ddim niwed byth.
20Mewn newyn bydd yn dy ryddhau o afael marwolaeth,
ac mewn rhyfel, o afael y cleddyf.
21Byddi'n cael dy amddiffyn rhag y tafod maleisus;
a fyddi di ddim yn ofni dinistr pan ddaw yn agos.
22Byddi'n gwawdio dinistr a newyn,
a fydd gen ti ddim ofn anifeiliaid gwylltion.
23Bydd cerrig yn cytuno i gadw draw o dy dir,
a fydd anifeiliaid gwylltion ddim yn ymosod arnat ti.
24Byddi'n gwybod fod dy gartref yn ddiogel,
ac wrth archwilio dy anifeiliaid, fydd dim un ar goll.
25Byddi'n siŵr o gael llawer iawn o blant;
bydd dy ddisgynyddion fel glaswellt ar y tir.
26Byddi mewn oedran mawr pan gyrhaeddi'r bedd,
fel ysgub o wenith yn cael ei gasglu yn ei dymor.
27Edrych! Dŷn ni wedi astudio hyn yn fanwl, ac mae'n wir.
Felly gwrando, a meddylia sut mae'n berthnasol i ti.”
Copyright information for CYM